Cwestiynau Sampl

English

Ffocws PISA 2015 oedd gwyddoniaeth. I ddeall mwy am asesiadau gwyddoniaeth PISA 2015, gweler y cwestiynau sampl ar wefan OECD. Gallwch hefyd archwilio'r cysyniadau a'r cymwyseddau sy'n cael eu harchwilio a dysgu beth all disgyblion 15 oed ar lefelau hyfedredd gwahanol eu gwneud.

I weld rhai cwestiynau sampl Cymraeg o PISA 2015, cliciwch isod.

Holiaduron

Bydd pob disgybl ac ysgol yn llenwi holiaduron. Roedd rhai cwestiynau a gynhwyswyd mewn astudiaethau PISA blaenorol yn caniatáu cymariaethau dros amser, ac mae cwestiynau newydd yn ein galluogi i ddeall profiadau disgyblion ac athrawon yn well o ran y pwnc dan sylw (darllen yw ffocws PISA 2018). Isod ceid enghreifftiau o holiaduron disgyblion ac ysgolion.

Mae holiaduron ychwanegol y gall gwledydd ddewis cymryd rhan ynddynt. Gofynnir i ddisgyblion yn Lloegr am ba mor gyfarwydd ydyn nhw â TGCh a bydd cwestiynau ychwanegol yn cael eu gofyn am eu profiad addysg. Mae'r Alban yn cymryd rhan yn yr holiadur athrawon a gofynnir i ddisgyblion am TGCh yn yr ysgol.

;