Beth mae PISA 2018 yn ei ddweud wrth Gymru am ddarllen - NFER

Beth mae PISA 2018 yn ei ddweud wrth Gymru am ddarllen

Gan Jane Nicholas a Robert Smith

Wednesday 19 February 2020

English

Newyddion cadarnhaol ond lle i wella o hyd
Roedd newyddion cadarnhaol i Gymru yng nghanlyniadau PISA 2018 a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf. Am y tro cyntaf, roedd Cymru yn agosach at gyfartaledd yr OECD mewn darllen, gwyddoniaeth a mathemateg. Roedd y ffocws ar gyfer y cylch hwn o brofion ar ddarllen (y prif faes) ac nid oedd sgôr gymedrig Cymru (483) yn ystadegol wahanol i gyfartaledd yr OECD (487)

Dangosodd disgyblion yng Nghymru gryfderau cymharol yn sgiliau darllen  ‘canfod gwybodaeth’ a ‘gwerthuso a myfyrio’, ond yn yr un modd â disgyblion mewn llawer o wledydd eraill, ni wnaethant berfformio gystal wrth ‘ddeall’.

Er bod disgyblion yng Nghymru yn tueddu i fod yn fwy hyderus yn eu gallu darllen na'r cyfartaledd ar gyfer yr OECD, roeddent yn llai tebygol o ddarllen llyfrau ac roedd ganddynt agweddau mwy negyddol tuag at ddarllen na disgyblion ar draws yr OECD.

Mewn darllen, perfformiodd merched yn well na bechgyn ym mhob gwlad. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau yng Nghymru’n datgelu y bu cynnydd sylweddol yn sgoriau darllen merched, ond roedd sgôr darllen gyfartalog bechgyn yn arbennig o isel, o’i chymharu â gweddill y DU.

Beth mae hyn yn ei olygu pan edrychwn y tu ôl i'r prif ddata?

Cymhariaeth â gwledydd eraill y DU a'r goblygiadau i Gymru
Er bod perfformiad yng Nghymru yn agosach at gyfartaledd yr OECD, mae'r canlyniadau'n awgrymu bod angen cynnydd pellach os yw disgyblion am gyrraedd targed datganedig Llywodraeth Cymru o sgôr gyfartalog o 500 ym mhob maes erbyn 2021.

Perfformiodd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn sylweddol well na Chymru mewn darllen. At hynny, mae'r gwelliant ym mherfformiad darllen Cymru o'i gymharu â'r OECD wedi digwydd oherwydd dau newid a allai fod o ganlyniad i siawns yn ystadegol: cynnydd o 6 phwynt yn sgôr disgyblion yng Nghymru a gostyngiad o 3 phwynt yn sgôr disgyblion ar draws yr OECD ar gyfartaledd. Gyda'i gilydd felly, mae'r newidiadau hyn mewn sgoriau yn golygu bod disgyblion yng Nghymru wedi perfformio'n debyg i ddisgyblion ar draws yr OECD mewn darllen, am y tro cyntaf.

Mae hyn yn codi cwestiynau am effaith diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y degawd diwethaf (gan gynnwys y Profion Darllen Cenedlaethol a gyflwynwyd yn 2011).

  • A yw'r dulliau darllen ar waith yng Nghymru yn wahanol i'r rhai a ddefnyddir mewn mannau eraill ac a all hyn esbonio’r bwlch mewn perfformiad?
  • A yw’r dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo darllen yn cael effaith wahanol yng Nghymru - ac, os felly, pam?
  • A oes dulliau addysgu mwy effeithiol ar gael, ac a oes modd defnyddio’r dulliau hynny yng nghyd-destun Cymru?
  • A oes mesurau eraill y dylid eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r mater?

Bydd yn ddiddorol i gloddio ychydig ymhellach i’r data er mwyn darganfod yr hyn sydd wedi’i newid mewn ysgolion sydd wedi arwain at gynnydd mewn sgoriau merched yn benodol ers 2015. Tybed a welir cynnydd mewn perfformiad merched ar draws y bwrdd neu a oes cryfderau penodol ganddynt, er enghraifft yn yr agweddau digidol ar ddarllen a aseswyd am y tro cyntaf yn 2018.  

Pa mor bwysig yw darllen?
Yn yr un modd, mae dadansoddiad o'r dystiolaeth a gyflwynwyd am wahanol gydrannau darllen yn dangos nad oedd dysgwyr yng Nghymru, fel eu cymheiriaid ar draws yr OECD, wedi perfformio cystal wrth 'ddeall' yr hyn yr oeddent wedi'i ddarllen, o gymharu â 'chanfod gwybodaeth' a 'gwerthuso a myfyrio '.

Yn fwy sylfaenol, mae PISA yn awgrymu bod disgyblion yng Nghymru yn llai tebygol o ddarllen llyfrau a bod ganddynt agweddau mwy negyddol tuag at ddarllen na'u cymheiriaid ar draws yr OECD. Y tro diwethaf i ddarllen fod yn brif faes yn PISA sef yn 2009, nododd dadansoddiad o’r canlyniadau bwysigrwydd darllen er pleser bob dydd, sydd ‘yn gysylltiedig â pherfformiad gwell yn yr ysgol a chyda hyfedredd darllen oedolion’[1]. Mae'n hanfodol, felly, bod system addysg Cymru yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r materion hyn, yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn ysgolion (gan gynnwys pa bryd mae agweddau negyddol at ddarllen yn dechrau dod i’r amlwg), ochr yn ochr â dealltwriaeth o dystiolaeth ryngwladol ategol. Bydd hyrwyddo darllen a deall yn ffocws allweddol i lawer o systemau addysg eraill, nid Cymru yn unig, ond bydd yn ddefnyddiol archwilio sut mae gwledydd eraill yn mynd i'r afael â'r mater hwn wrth symud ymlaen.

Pa bynnag gasgliadau y mae llunwyr polisi yn eu tynnu o'r penawdau, mae'r cyfraniad y mae astudiaeth PISA yn ei wneud i ymchwil a mewnwelediad data yn rhoi cyfle i lunwyr polisi ac ymchwilwyr gloddio y tu hwnt i'r ffigurau sylfaenol i ddeall y dylanwadau addysgol, cymdeithasol, diwylliannol ac eraill sy'n effeithio ar ganlyniadau addysgol. Mae'r ffaith bod canlyniadau PISA yn cyd-fynd â'r gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd yng Nghymru yn rhoi cyfle euraidd i ymgorffori strategaethau sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r heriau hyn mewn darllen.

[1] www.oecd.org/pisa/pisaproducts/pisainfocus/48624701.pdf