Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion

Cymraeg | English

Cwestiynau cyffredin

Cyflwyniad

Ynglyn â’r profion

Cymharu Asesiad Rhyngwladol PISA â’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion

Cynnal y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion

Canlyniadau eich ysgol


Beth yw’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion?

Asesiad ar lefel ysgolion a ddatblygwyd gan y Sefydliad Cydweithio a Datblygu Economaidd (OECD) yw’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion. Mae’r asesiad yn seiliedig ar y Rhaglen OECD er Asesiad Disgyblion Rhyngwladol (PISA), sef y rhaglen ryngwladol gydnabyddedig a drefnir gan OECD mewn partneriaeth â gwledydd ac economïau sy’n cymryd rhan. Er bod y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion yn seiliedig ar yr un fframweithiau asesu â rhai PISA, mae’n rhoi canlyniadau ar gyfer yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn hytrach na chanlyniadau cenedlaethol. Mae’r DU yn aelod o OECD ac wedi cymryd rhan yn PISA ers iddi ddechrau yn 2000.

Nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion a'r cwricwla cenedlaethol neu gwricwla’r ysgol. Fel PISA, mae’r prawf wedi’i ddylunio i asesu i ba raddau gall disgyblion 15 oed eich ysgol, wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu haddysg orfodol, ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn sefyllfaoedd go iawn a dod yn barod i gymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas fodern. Hefyd, fel PISA, mae’n edrych ar sut gall disgyblion ddefnyddio’r hyn maent wedi’i ddysgu mewn cyd-destunau anghyfarwydd, o fewn a thu allan i ysgolion.

Bydd yr asesiad yn rhoi gwybodaeth ddisgrifiadol a dadansoddiadau allweddol i chi o sgiliau eich disgyblion 15 oed a’u defnydd creadigol o wybodaeth ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, y gellir eu cymharu â data cyfredol PISA.

Yn ogystal â’r profion, mae'r disgyblion yn ateb holiadur cyd-destunol fydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi am sut mae gwahanol ffactorau o fewn a thu allan i ysgolion yn gysylltiedig â pherfformiad eich disgyblion. Mae holiaduron disgyblion yn rhan bwysig o’r asesiad a byddant yn rhoi gwybodaeth fyddai’n anodd cael gafael arni fel arall am gefndiroedd economaidd-gymdeithasol y disgyblion, eu hagweddau at eu hamgylchedd dysgu o fewn a thu allan i’r ysgol, a’u diddordebau mewn darllen, gwyddoniaeth a mathemateg.

Yn wahanol i brif astudiaeth PISA, lle mae ysgolion penodol yn cael eu dewis ar hap i gymryd rhan, mae’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion ar gael i unrhyw ysgol sy’n dymuno cymryd rhan. Mae NFER yn cynnal y gwasanaeth yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd Sianel Prydain ar hyn o bryd. Mae 84 o ddisgyblion 15 oed yn cael eu dewis ar hap i sefyll prawf ac ateb holiadur fydd yn cael eu gweinyddu a’u marcio gan staff NFER. Mae’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael adroddiad am berfformiad eu hysgol yn erbyn y data meincnodi cenedlaethol a rhyngwladol sy’n seiliedig ar brif astudiaeth PISA.

Beth yw PISA?

Astudiaeth ryngwladol yw PISA sy’n gwerthuso systemau addysg ar draws y byd bob tair blynedd drwy asesu cymhwysedd disgyblion 15 oed mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Hyd yma, mae dros hanner miliwn o ddisgyblion, yn cynrychioli 28 miliwn o ddisgyblion 15 oed mewn 74 o wledydd ac economïau, wedi cymryd rhan yn PISA.

Mae prif brawf PISA yn asesu beth mae disgyblion yn ei wybod ac yn gallu ei wneud ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae’r canlyniadau cyfanredol fesul gwlad/economi wedi llywio trafodaethau am bolisïau cenedlaethol a byd-eang ers 2000. Cyhoeddwyd canlyniadau Cylched 2012 prif astudiaeth PISA ar 3 Rhagfyr 2013.

Cewch fwy o wybodaeth am PISA drwy wylio’r canllaw hwn gan OECD.

A gafodd y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion ei dreialu?

Cafodd yr asesiad rhyngwladol ei dreialu gyda 126 o ysgolion ledled Canada, y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn 2012. Diben y peilot oedd cadarnhau amodau gweinyddol a gweithdrefnau’r asesiad, ystyried sut byddai canlyniadau’n cael eu hadrodd, a chael adborth gan yr ysgolion a’r ardaloedd a gymerodd ran cyn i’r prawf fod ar gael i’r cyhoedd yn 2013.

Pa wledydd eraill sy’n defnyddio’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion?

Yn ogystal â’r Unol Daleithiau, Sbaen, Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd Sianel Prydain, mae OECD yn cynnal trafodaethau gyda llywodraethau mewn gwledydd eraill ar hyn o bryd i benderfynu ar ba delerau y gallai’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion fod ar gael.

Onid oes profion eraill sydd eisoes yn mesur yr un pethau?

Mae’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion yn mesur gallu disgyblion i adalw gwybodaeth a’i defnyddio’n greadigol. Nid yw’n gysylltiedig â chwricwlwm cenedlaethol penodol, ond mae’n mesur cymwyseddau rhyngwladol craidd mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Ei nod yw ategu cynnwys a chwricwla cenedlaethol, nid eu dyblygu.

Pa raddfeydd asesu sy’n sail ar gyfer y profion hyn?

Mae modd disgrifio cyflawniad yn PISA yn nhermau hyfedredd – mae chwe lefel hyfedredd ar gyfer pob pwnc. OECD sydd wedi dyfeisio lefelau hyfedredd PISA ac nid ydynt yn gysylltiedig â dangosyddion lefel cwricwlwm neu raddau arholiadau unrhyw wlad yn benodol. Y disgyblion sy’n cyflawni’r lefel hyfedredd uchaf sydd fwyaf tebygol o gwblhau elfennau anoddaf PISA, a dim ond y tasgau sylfaenol y disgwylir i’r disgyblion sy’n cyrraedd y lefel isaf eu cyflawni.

Beth sy’n cael ei asesu mewn gwirionedd?

Mae’r profion wedi’u dylunio i asesu llythrennedd y disgyblion ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Llythrennedd darllen

Gallu unigolyn i: ddeall, defnyddio, myfyrio ar, ac ymgysylltu â thestunau ysgrifenedig er mwyn cyflawni eu hamcanion, datblygu eu gwybodaeth a'u potensial, yn ogystal â chymryd rhan mewn cymdeithas.

Llythrennedd mathemategol

Gallu unigolyn i: adnabod a deall rôl mathemateg yn y byd, dod i benderfyniadau cadarn, a defnyddio ac ymgysylltu â mathemateg mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion bywyd yr unigolyn o dan sylw fel dinesydd adeiladol, ystyriol a myfyriol.

Llythrennedd gwyddonol

Gwybodaeth wyddonol benodol unigolyn a’r ffordd y mae’n defnyddio’r wybodaeth honno i gaffael gwybodaeth newydd, egluro ffenomena gwyddonol, a dod i gasgliadau ar sail tystiolaeth am faterion cysylltiedig â gwyddoniaeth, deall nodweddion gwyddoniaeth fel ffurf o wybodaeth ac ymchwiliad dynol, ymwybyddiaeth o sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn llunio ein hamgylcheddau materol, deallusol a diwylliannol, yn ogystal â pharodrwydd i ymgysylltu â materion a syniadau cysylltiedig â gwyddoniaeth fel dinesydd myfyriol.

Pam cymharu ar lefel ysgolion yn rhyngwladol?

O ystyried ein heconomi byd-eang sy’n seiliedig ar wybodaeth, mae'n gynyddol bwysig cymharu disgyblion nid yn unig â safonau lleol neu genedlaethol, ond gyda pherfformiad systemau addysg gorau’r byd hefyd. Yn y DU, mae diddordeb cynyddol mewn cymharu perfformiad disgyblion â meincnodau rhyngwladol er mwyn asesu pa mor dda mae disgyblion wedi’u paratoi i gymryd rhan mewn cymdeithas fyd-eang, yn ogystal â fel ffordd o bennu targedau sy’n llawer uwch na lefelau hyfedredd sylfaenol neu ddisgwyliadau lleol. Mae’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion wedi’i ddylunio i gynorthwyo ymdrechion parhaus ysgolion i wella drwy roi adborth cynhwysfawr ar berfformiad eu hysgol a sut mae hwn yn cymharu â meincnodau cenedlaethol a rhyngwladol, a pherfformiad mewn ysgolion tebyg.

Beth fydd y Prawf ar sail PISA ar gyfer Ysgolion yn ei ddweud wrthym?

Yn ogystal ag asesu gallu’r disgyblion i ddefnyddio’r wybodaeth y maent wedi’i chaffael, mae’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion yn meincnodi sut mae disgyblion yn cymharu â’u cyfoedion o fewn ffiniau lleol a chenedlaethol a thu hwnt hefyd, gan awgrymu pa mor barod ydynt i fod yn aelodau o gymdeithas sy'n gynyddol fyd-eang.

Drwy’r holiaduron, mae'r asesiad hefyd yn casglu gwybodaeth gan ddisgyblion am yr amgylchedd dysgu mewn ysgolion ac mewn ystafelloedd dosbarth, y berthynas rhwng athrawon a disgyblion, ac agweddau disgyblion at ddysgu a sut maent yn ymgysylltu â dysgu.

Mae’r asesiad yn rhoi amcangyfrifon ar lefel ysgolion o berfformiad a gwybodaeth ar lefel ysgolion am yr amgylchedd dysgu, ac agweddau disgyblion drwy holiaduron y disgyblion. Ni chofnodir canlyniadau a gwybodaeth am ddisgyblion unigol. Mae hyn yn diogelu preifatrwydd y disgyblion sy’n cymryd rhan yn ogystal â dilysrwydd ymatebion y disgyblion.

Dyma adroddiad sampl.

Oni fydd y prawf hwn yn arwain at restru ysgolion yn ôl canlyniadau?

Nid yw’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion a’i ganlyniadau wedi’u creu i’w dehongli neu eu defnyddio i restru ysgolion neu ar gyfer ‘tablau cynghreiriau’. Gall rhestri weithio yn erbyn ymdrechion i wella ysgolion gan nad ydynt yn rhoi llais blaenllaw i gymuned yr ysgol (penaethiaid, athrawon, disgyblion a rhieni) wrth wella ac arloesi.

Cedwir canlyniadau ysgolion unigol yn gyfrinachol rhwng NFER, yr ysgol ac OECD. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig yr ysgol er mwyn rhannu adroddiadau ysgolion ag unrhyw drydydd partïon (fel cadwynau Academïau).

Onid oes gormod o brofion yn barod?

Mae’r Prawf Seiliedig ar PISA yn un gwirfoddol ar gyfer ysgolion sydd â diddordeb mewn meincnodi rhyngwladol a gwella canlyniadau eu disgyblion. Nid creu rhywbeth at ddibenion gorfodol neu atebolrwydd yw’r bwriad. Nid yw’r asesiad yn ceisio lleihau amser dysgu disgyblion ac mewn ystafelloedd dosbarth; yn hytrach, mae’n brofiad dysgu ar gyfer athrawon a disgyblion sy’n gallu ysgogi trafodaethau am y mathau o wybodaeth, sgiliau a chymwyseddau sy’n berthnasol mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Beth yw’r pethau pwysig i’w hystyried wrth ddefnyddio’r asesiad hwn fel ffordd o wella’r ysgol?

Ni ddylai perfformiad gael ei ystyried mewn termau absoliwt, ond yn hytrach mewn termau cyfiawnder ac effeithiolrwydd cymharol ysgolion.

Mae llawer o ysgolion yn llwyddo i roi sgiliau a gwybodaeth i’w disgyblion a fydd yn eu galluogi i gystadlu â chyfoedion o’r systemau addysg gorau yn y byd, ac mae rhai ohonynt hyd yn oed yn gallu gwneud hynny gyda disgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod lle i wella mewn rhai o'r ysgolion sy’n llwyddo yn ogystal â’r rhai sy’n tanberfformio. Ni ddylai ysgolion sy’n cyflawni canlyniadau perfformiad sy’n eu rhoi ar y brig o gymharu ag ysgolion eraill yn y DU ac mewn gwledydd eraill ystyried y prawf hwn fel modd o ‘ddilysu’ eu rhagoriaeth at ddibenion cyhoeddusrwydd yn unig; er y gallai’r adroddiad roi achos dilys a chyfiawn dros ddathlu, gellir ei ystyried hefyd fel modd o gyflawni lefelau hyd yn oed yn uwch ar gyfer pob disgybl. Ar yr un pryd, dylai staff a disgyblion mewn ysgolion sy’n tanberfformio gael eu hannog i wybod fod gwella nid yn unig yn bosibl, ond ei fod o fewn eu cyrraedd a’u gallu.

Dylai meincnodi rhyngwladol, wedi’i ategu gan asesiadau ac adroddiadau ysgolion, gael ei ystyried fel proses.

Gall gwybodaeth am gyflawniadau disgyblion, eu hymgysylltiad, a’r amgylchedd dysgu ac addysgu yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan, ysgogi rhagor o fyfyrio a thrafod ymhlith staff ysgolion ac awdurdodau lleol (ALlau)/byrddau addysg. Cyfleoedd dysgu ymhlith cyfoedion a rhannu arferion effeithiol yw’r cam rhesymegol nesaf yn y broses o feincnodi rhyngwladol er mwyn gwella. Mae modd cael gafael ar gyfoeth canlyniadau PISA ac ymchwil ac adnoddau cysylltiedig OECD (adroddiadau, fideos a chyhoeddiadau) yn rhwydd drwy e-adroddiad a roddir i’r ysgolion a’u hyperddolenni byw. Anogir defnyddwyr y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion i bori drwy’r rhain ac adnoddau eraill er mwyn chwilio am ragoriaeth ac arferion gorau.

Er bod ysgolion ac ALlau/byrddau addysg yn cael eu hannog i rannu a thrafod eu canlyniadau'n agored gyda’r gymuned addysg leol (staff yr ysgol, disgyblion a rhieni), nid oes unrhyw orfodaeth arnynt i wneud hynny o ganlyniad i ddewis defnyddio’r asesiad.

Mae’r asesiad wedi’i ddylunio i helpu ysgolion i wella, nid er mwyn creu rhestri neu dablau cynghreiriau. Mae’n mesur perfformiad y disgyblion er mwyn cyfeirio ysgolion, nid eu cosbi, ac er mwyn cynorthwyo gwelliant yn lleol.

Dylid hefyd ystyried perfformiad yng nghyd-destun ansawdd yr amgylchedd dysgu mewn ysgolion.

Yn ogystal ag adolygu’r amcangyfrifon ar lefel ysgolion o berfformiad disgyblion, gwahoddir ysgolion ac awdurdodau lleol/ffederasiynau/rhwydweithiau ysgolion i ystyried hefyd y wybodaeth yn adroddiadau’r ysgolion am y berthynas rhwng athrawon a disgyblion, y drefn ddisgyblu, yn ogystal ag ymgysylltiad disgyblion a'u hagweddau at ddysgu. Mae addysgu effeithiol er mwyn rhoi canlyniadau gwell i ddisgyblion, boed yn wybyddol ac yn anwybyddol, yn cynnwys sawl dimensiwn gwahanol ac nid oes un pwynt data yn gallu cofnodi hyn. Anogir defnyddwyr yr asesiad i ystyried y llu o ffactorau o dan sylw yn adroddiadau’r ysgolion sy’n dylanwadu ar berfformiad.

Yn y dyfodol, gobeithiwn y bydd y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion yn gallu cynnig cyfleoedd dysgu pwysig ymhlith cyfoedion – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – yn ogystal â’r cyfle i rannu arferion da er mwyn helpu i amlygu ‘arferion llwyddiannus’.

A fydd canlyniadau ysgolion unigol yn cael eu cyhoeddi yn rhywle?

Ni chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi. Fodd bynnag, gwahoddir ysgolion ac ALlau/ffederasiynau/rhwydweithiau ysgolion i rannu a thrafod eu canlyniadau fel ag y mynnant gyda’r gymuned addysg leol (staff yr ysgol, disgyblion a rhieni), ond nid yw dewis defnyddio’r asesiad yn eu gorfodi i wneud hynny mewn unrhyw ffordd.

Bydd gan NFER ac OECD gopïau o adroddiad pob ysgol, ond ni fyddant yn cyhoeddi’r rhain nac yn eu cynnig i unrhyw un arall oni bai eu bod wedi cael caniatâd penodol i wneud hynny.

 phwy y caf rannu canlyniadau fy Mhrawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion?

Hwyrach yr hoffai ysgolion rannu a thrafod eu canlyniadau gyda’u cymuned addysg leol (llywodraethwyr, staff yr ysgol a rhieni). Gallech hefyd fod yn dymuno rhannu eich canlyniadau ag ysgolion eraill yn yr awdurdod lleol/ffederasiwn/rhwydwaith ysgolion fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau ynghylch arfer gorau ac ‘arferion llwyddiannus’.

Beth yw’r cysylltiad rhwng y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion a PISA?

Rhoi canlyniadau cenedlaethol y gellir eu defnyddio i gael cymariaethau rhyngwladol a llywio trafodaethau am bolisïau yw’r bwriad y tu ôl i asesiad rhyngwladol PISA. Mae’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion, ar y llaw arall, wedi’i ddylunio i roi canlyniadau ar lefel ysgolion at ddibenion meincnodi a gwella ysgolion.

Mae’r asesiad ar lefel ysgolion yn ategu prif astudiaeth PISA gan fod cynulleidfa ehangach yn gallu cael gafael ar y canlyniadau ar sail PISA hyd yn oed yn haws, gan alluogi addysgwyr lleol i gymryd rhan a chyfrannu mewn trafodaethau am bolisïau yn eu gwledydd.

Mae’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion wedi’i ddylunio ac yn seiliedig ar yr un fframweithiau asesu â’r rhai sydd ym mhrif astudiaethau PISA, ond mae’r asesiadau’n wahanol. Un o’r prif wahaniaethau yw bod y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion wedi’i ddylunio i roi canlyniadau ar gyfer ysgolion unigol yn hytrach na rhoi canlyniadau cyfanredol ar lefel system neu genedlaethol. O ystyried y gwahaniaeth hwn, ni ddylai cymryd rhan mewn un asesiad gael ei ddrysu â chymryd rhan yn y llall. Mae’r prawf y mae’r disgyblion yn eu sefyll yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn rhoi canlyniadau y gellir eu cymharu â graddfeydd rhyngwladol PISA os ydynt yn cael eu gweinyddu o dan yr amodau priodol – er nad sgoriau cenedlaethol PISA mohonynt fel y cyfryw.

Y ffaith bod modd cymharu’r canlyniadau yw’r hyn sy’n galluogi ysgolion i weld sut maent yn cymharu ag ysgolion eraill yn rhai o systemau addysg mwyaf blaenllaw’r byd.

Oes modd i unrhyw ysgol gymryd rhan?

Oes, gall unrhyw ysgol sy’n gallu cadw at gyfnod cynnal y profion a’r amodau gymryd rhan.
Dyma'r telerau ac amodau.

Beth yw’r amodau ar gyfer cynnal y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion?

Mae OECD wedi penodi NFER i gyflwyno’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd Sianel Prydain.

Bydd NFER yn gweithio gydag ysgolion i wneud yn siwr bod y safonau ansawdd a’r gweithdrefnau’n cael eu dilyn wrth baratoi ar gyfer gweinyddu’r prawf yn ogystal ag ar ddiwrnod y prawf. Byddwn yn dewis 84 o ddisgyblion pymtheg oed ar hap o’ch cofrestr i sefyll yr astudiaeth, yn unol ag asesiad rhyngwladol PISA. Rhaid i o leiaf 80% o’r disgyblion hyn gymryd rhan yn yr asesiad er mwyn gallu cynhyrchu adroddiad yr E-lyfr.

Dyma'r telerau ac amodau.

Sut cynhelir yr asesiad?

Yn yr asesiad, mae disgyblion yn ymateb i tua dwy awr o gwestiynau prawf ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yn ogystal ag ateb holiadur disgyblion 35 munud o hyd sy’n rhan bwysig o’r asesiad.

Bydd y disgybl yn cael ei brofi am tua thair awr a hanner i gyd, gan gynnwys y cyfarwyddiadau a phob egwyl.

Bydd angen i ysgolion roi person cyswllt a data am ddisgyblion i NFER i hwyluso’r prawf a darparu man lle gall hyd at 84 o ddisgyblion sefyll yr astudiaeth dan amodau arholiad. Bydd NFER yn rhoi gwybodaeth lawn i gysylltiadau’r ysgolion am eu cyfrifoldebau a gofynion y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion.

NFER fydd yn darparu gweinyddwyr i weinyddu’r profion a’r holiaduron yn eich ysgol. Staff NFER fydd yn gwneud yr holl waith marcio.

Rhaid i o leiaf 80% o’r disgyblion gymryd rhan yn yr asesiad er mwyn gallu cynhyrchu adroddiad eich ysgol. Os cyflawnir hyn, byddwch yn cael adroddiad eich ysgol ymhen wyth wythnos ar ôl diwedd cyfnod cynnal y profion drwy borth diogel NFER ar gyfer ysgolion.

Mae gennym linell gymorth fewnol sydd ar gyfer ysgolion yn benodol ac a fydd yn cynorthwyo eich ysgol drwy’r broses rhag ofn y bydd gennych unrhyw ymholiadau.

Pryd bydd y canlyniadau’n barod ar gyfer yr ysgol?

Mae’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion yn cadw at amserlen gaeth o’r dyddiad archebu, i weinyddu’r profion mewn ysgolion, hyd at gyflwyno adroddiad terfynol yr ysgol. Ewch i’r adran dyddiadau a chamau.

Pa mor ddefnyddiol fydd adroddiad fy ysgol ar ôl cynnal Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion?

Mae eich adroddiad wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i ddysgu rhagor am i ba raddau y mae gan ddisgyblion eich ysgol y sgiliau sydd eu hangen yn economi fyd-eang heddiw, yn ogystal ag ysgogi myfyrdod a thrafodaeth a all fod yn sail i hunanasesu a gwella yn yr ysgol.

Bydd yn rhoi data defnyddiol, dibynadwy a gwrthrychol i’ch ysgol. Bydd yn ategu ac yn ehangu eich data cyfredol i allu gwerthuso’r canlyniadau a’u defnyddio mewn ffordd adeiladol er mwyn gwella’r profiad addysgol yn eich ysgol. Bydd yn eich galluogi i edrych yn fanwl ar ganlyniadau eich ysgol a chewch enghreifftiau o strategaethau, polisïau, arferion a chanlyniadau o systemau addysg ar draws y byd y gallwch eu defnyddio i fyfyrio’n feirniadol ac ysgogi trafodaeth wrth chwilio am ragoriaeth.

Oherwydd hyn, bydd eich adroddiad yn ategu ac yn gwella dulliau monitro eraill eich ysgol, gan gynorthwyo eich datblygiad yn yr ysgol a chryfhau eich gweithgareddau atebolrwydd. Gall fod yn ychwanegiad defnyddiol at y dystiolaeth y byddwch yn ei chyflwyno mewn arolygiad, ac yn sylfaen defnyddiol ar gyfer trafodaeth gyda’ch rheolwyr addysg lleol (e.e. awdurdod lleol, bwrdd addysg, cadwyn academi, neu ymddiriedolwyr eraill). Gall hefyd gynorthwyo sgyrsiau proffesiynol gyda’ch staff ac ysgolion eraill yn eich rhwydwaith/ffederasiwn.

Pa ddadansoddiad fydda i'n gallu gweld ar fy nghanlyniadau?

Bydd adroddiad eich ysgol yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o berfformiad eich ysgol ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn erbyn yr hyn sy’n arferol ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd hefyd yn rhoi dadansoddiad yn ôl nodweddion allweddol, dadansoddiad o farn disgyblion am yr amgylchedd dysgu a’u heffeithlonrwydd ynddo, dolenni i dystiolaeth ymchwil am arferion llwyddiannus, yn ogystal â disgrifiadau o sut i ddehongli’r dadansoddiadau. Bydd crynodeb gweithredol yn yr adroddiad fydd yn eich helpu i weld yr uchafbwyntiau. Gan fod y disgyblion 15 oed a gymerodd ran wedi’u dewis ar hap, byddwch yn gallu cyffredinoli’r canlyniadau yn eich adroddiad ar gyfer yr holl ddisgyblion 15 oed yn eich ysgol.

Cewch fwy o wybodaeth am yr adroddiad yma.

Sut gallaf ddefnyddio’r canlyniadau hyn fel sail i sut rwyf yn dysgu ac addysgu?

Bydd yr adroddiad yn eich galluogi i ddeall pa mor dda mae eich disgyblion yn cymharu â chyfoedion yn genedlaethol ac ar draws y byd, yn nhermau asesiad byd-eang (yn hytrach nag asesiad o gwricwlwm penodol). Bydd hyn yn eich helpu i bennu targedau lleol-briodol i fodloni anghenion eich disgyblion nawr ac yn y dyfodol (boed o fewn, neu thu hwnt, i ddisgwyliadau lleol a chenedlaethol). Er enghraifft, gallai targedau fod yn gysylltiedig â gwella cyflawniad ym mhob un o’r pynciau a aseswyd, neu yn rhai ohonynt. Gallent ychwanegu gwerth mewn cysylltiad â chefndir economaidd-gymdeithasol, amlygu gwersi a ddysgwyd yn y pynciau a aseswyd y gellir eu trosglwyddo i feysydd eraill yn y cwricwlwm, ac ymwneud â dulliau addysgu sgiliau trosglwyddadwy. Gallent hefyd fynd i’r afael ag anghenion is-grŵp o ddisgyblion, ceisio gwella canfyddiadau ac agweddau disgyblion (e.e. o ran eu hyder a’u cymhelliant), neu edrych ar yr amgylchedd dysgu drwy ddathlu cryfderau ac edrych ar feysydd a allai gael eu datblygu ymhellach.

Drwy ddefnyddio adroddiad eich ysgol i ddechrau sgwrs broffesiynol am anghenion yn eich cyd-destun, gallwch ganfod ffyrdd o fodloni anghenion lleol ac ymestyn llwyddiannau cyfredol eich ysgol. Gallai’r gwelliannau dilynol fod yn rhai sy’n trawsnewid neu’n rhai graddol. Fodd bynnag, drwy eu gosod yn y cyd-destun lleol a’u harwain gan safbwynt ehangach, gallant gynorthwyo eich disgyblion i wneud y gorau o’u gallu hyd at safon gystadleuol ryngwladol.

Sut gall grŵp o ysgolion ddefnyddio’r asesiadau hyn?

Mae cyfleoedd dysgu rhwng cyfoedion a rhannu arferion effeithiol yn ddulliau defnyddiol yn y broses o ddefnyddio meincnodau rhyngwladol er mwyn gwella. Hwyrach bod eich ysgol wedi cymryd rhan yn y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion fel rhan o rwydwaith neu ffederasiwn, ond hyd yn oed os na wnaethoch hynny, gallech rannu eich canfyddiadau ag ysgolion eraill o hyd, neu gyda rhanddeiliaid allweddol yn eich ysgol (fel eich awdurdod lleol/bwrdd addysg neu ddarparwr academi, corff llywodraethu/bwrdd llywodraethu/ymddiriedolwyr, rhieni, a’ch disgyblion). Gallen nhw fod wedi dysgu gwersi gwahanol i’ch rhai chi, a allai ysgogi rhagor o bwyntiau datblygu defnyddiol neu ystyriaethau eraill gan helpu i gryfhau perfformiad eich ysgol yn y pen draw.

Gallai rhannu’r syniadau a amlinellwyd ar gyfer defnyddio eich canlyniadau i wella dysgu ac addysgu gyda’ch partneriaid a’r rhanddeiliaid fod o ddefnydd. Gydag ysgolion partner, gellir ategu hyn drwy gynnal sgyrsiau am yr hyn oedd yn debyg neu’n wahanol mewn canlyniadau ar draws y rhwydwaith/ ffederasiwn, rhesymau posibl dros hyn, a chyfleoedd posibl i lunio strategaethau defnyddiol er mwyn gwella. Gallai canfyddiadau’r ymchwil cefndirol yn eich adroddiad(au) gyfeirio eich trafodaethau hefyd, yn ogystal â chynnig rhagor o fannau cychwyn wrth ystyried meysydd o ddiddordeb.

Sut gallai’r Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion fod o ddefnydd mewn hunanasesiad gan ysgol?

Fel arfer, bydd arolygiad allanol neu brosesau dilysu yn adolygu ansawdd darpariaeth eich ysgol, canlyniadau'r disgyblion, a sut mae eich ysgol yn cael ei harwain. Gallen nhw hefyd ystyried cynlluniau’r ysgol ar gyfer gwella a’i gallu i gyflwyno newidiadau. Gall eich adroddiad ar ôl y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion gynorthwyo eich paratoadau ar gyfer arolygiad/dilysiad, yn ogystal â’ch hunanwerthusiad parhaus ym mhob un o’r meysydd hyn.

Bydd eich adroddiad yn ategu’r mathau eraill o dystiolaeth yr ydych yn eu defnyddio yn hunanwerthusiad a phrosesau arolygu/dilysu eich ysgol, gan roi darlun cyfoethocach o fywyd yn eich ysgol a dadansoddiad mwy eang/dwfn o faterion sy’n codi a’r strategaethau a ddefnyddir i fynd i’r afael â nhw. Drwy ddangos eich bod wedi dadansoddi gwybodaeth o sawl ffynhonnell, byddwch yn gallu dangos parodrwydd eich ysgol i werthuso meysydd allweddol a’ch ymrwymiad i wella.

O gofio bod y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion yn asesu agweddau gwahanol o ddysgu o gymharu ag asesiadau eraill, gallai eich adroddiad ddilysu ac ychwanegu manylion gwahanol at rai casgliadau am hyd a lled cyrhaeddiad yn eich ysgol. Bydd hyn yn eich galluogi i gyflwyno achos cryf o blaid effeithiolrwydd yr ysgol a/neu’r rhesymeg y tu ôl i unrhyw dargedau datblygol a fabwysiadir. Ar y llaw arall, bydd unrhyw feysydd tystiolaeth yn eich adroddiad sy’n mynd yn groes i’r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli, yn cynnig safbwynt gwahanol ar sail y wybodaeth a gasglwyd, a gallai hyn roi rhesymeg gefnogol ar gyfer targedau datblygol neu newidiadau a argymhellir. Yn y naill achos fel y llall, bydd defnyddio adroddiad eich ysgol yn dangos bod arweinwyr yr ysgol yn ymrwymo i wella a’ch bod yn gwerthuso’n eang ac yn ofalus. Mae’n dangos hefyd y gall unrhyw achlysur pan fod adroddiad eich ysgol ar ôl y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion sy’n ysgogi sgwrs broffesiynol fod yn dystiolaeth ddefnyddiol o hunanwerthusiad a’r awydd i wella.

Bydd union natur y dystiolaeth ategol y gallai eich ysgol ei thynnu o’r adroddiad yn amrywio yn ôl y canlyniadau penodol ar gyfer eich ysgol.

Ydw i’n cael cymryd rhan mewn Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion os yw fy ysgol wedi’i dewis ar gyfer PISA 2015 neu astudiaeth ryngwladol arall?

Os yw eich ysgol wedi’i dewis ar gyfer astudiaeth gymharu ryngwladol fel y Rhaglen OECD er Asesiad Disgyblion Rhyngwladol (PISA) neu Dueddiadau IEA mewn Astudiaethau Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS), gallwch, os ydych yn dymuno, gofrestru ar gyfer y Prawf Seiliedig ar PISA i Ysgolion hefyd.

Fodd bynnag, bydd disgwyl i chi o hyd gymryd rhan yn yr astudiaeth ryngwladol y mae eich ysgol wedi’i dewis ar ei chyfer. Mae astudiaethau rhyngwladol fel PISA a TIMSS yn ffynonellau gwybodaeth bwysig sy’n helpu i lunio polisïau addysg ac mae arweinwyr ac athrawon ysgolion yn eu gwerthfawrogi. Mae trefnwyr astudiaethau yn gosod gofynion trylwyr ar gyfer yr astudiaethau fel bod pob gwlad yn dewis detholiad cynrychiadol o ysgolion.

Yn Lloegr, mae’r Adran Addysg (DFE) yn annog ysgolion i wirfoddoli i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Os nad oes digon o ysgolion yn cytuno i gymryd rhan, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer statudol i’w gorfodi i wneud hynny.